top of page

Digidol. Troi cliciau mewn i gysylltiadau.

Tyfwch bresenoldeb eich busnes ar-lein drwy ddwy faes digidol allweddol, dylunio gwe a chyfryngau cymdeithasol. Rydym yn creu strategaethau twf deallus wedi'u teilwra i anghenion eich busnes, gan eich cynorthwyo gyda'n harbenigedd a'n gwybodaeth i ddefnyddio'r offer marchnata ar-lein a chymdeithasol mwyaf addas.

Rydym yn dylunio gwefannau hawdd i’w defnyddio sy’n edrych yn ddeniadol ar bob dyfais. Gallwn eich helpu i sefydlu presenoldeb ar-lein trwy adeiladu gwefan sy’n cyd-fynd â’ch brand a’ch nodau marchnata digidol. Rydym yn canolbwyntio ar y manylion sy’n gwneud gwefan yn ddeniadol ac yn effeithiol, o deithiau defnyddiwr i hygyrchedd.

Chwilio Optimeiddiedig

Mae pob un o’n gwefannau’n chwilio-optimeiddiedig fel safon.

Ymatebol

Dyluniad gwefan llyfn sy’n gweithio’n berffaith ar bob dyfais.

Cynlluniau Gofal

Rydym yn cynnig gofal parhaus i’ch gwefan i gadw hi’n iach

Dadansoddeg

Dilynwch berfformiad eich gwefan gyda dadansoddeg uwch wedi’i sefydlu.

Cwestiynau Cyffredin.

  • Mae eich gwefan yn fuddsoddiad pwysig, ond rydym yn deall ei bod hi’n gallu bod yn un fawr. Gan ddibynnu ar gymhlethdod y wefan, gallwch ddewis talu mewn tair i bedair rhandaliad sy’n ddyledus mewn camau penodol a gytunwyd ymlaen llaw.

  • Byddwn yn cadw llygad rheolaidd ar eich gwefan am 30 diwrnod i sicrhau nad oes unrhyw broblemau. Ar ôl hynny, rydym yn cynnig Cynlluniau Gofal i gadw’ch gwefan yn iach a chefnogi cynnydd traffig parhaus.

  • n gyntaf, rydym yn penderfynu gyda’n gilydd pa nodau y mae angen i’r wefan newydd eu cyflawni. Yna, gallwn ddiffinio cwmpas y prosiect a dechrau gosod cynnwys a nodweddion mewn fframwaith gweledol. Unwaith y cytunir ar hyn, rydym yn dechrau creu cynnwys a brandio gweledol. Yna, mae’n amser lansio!

  • Gall postio ar social media helpu i adeiladu brand eich busnes. Mae natur weledol social media yn eich galluogi i dyfu eich hunaniaeth ddigidol ac yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu’n uniongyrchol â chwsmeriaid a chreu perthnasau.

  • Wrth gwrs, gallwn eich helpu i gael popeth lan yn rhedeg os ydych yn ansicr neu os gennych ddim amser i’w gosod i fyny eich hun.

  • Gellir canslo neu oedi cynlluniau misol cyn diwedd y cyfnod misol presennol, cyn eich bil misol nesaf.

bottom of page